Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) wedi lansio ystod wych o gynigion disgownt i drigolion lleol wneud y gorau o’u Gwanwyn yn atyniadau DLL.
 
Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, mae DLL yn awyddus i ddangos eu hymrwymiad i gwsmeriaid lleol, sy’n cefnogi’r cwmni drwy gydol y flwyddyn ac nid yn ystod y cyfnod gwyliau yn unig.
 
Mae’r cynigion sy’n rhedeg tan 11eg Gorffennaf, yn sicrhau y gall pob preswylydd lleol mwynhauo flaen prysurdeb yr haf.
 
Mae’r cynigion yn cynnwys sesiynau chwarae £2 yn Chwarae Antur SC2, £5 y gêm yn Ninja TAG a £5 ar gyfer sesiynau Parc Dŵr Rhieni a Babannod. Hefyd, gall plant chwarae am ddim yn Nova wrth fwyta yn y Caffi chwarae, ynghyd â llawer mwy o gynigion wedi’u hanelu at drigolion lleol. Gall cwsmeriaid hefyd ymuno yn yr hwyl yn safle Hamdden Prestatyn hynod boblogaidd DLL gyda sesiynau IGames a Chlip a Dringo wedi’u disgowntio i £5. Mae’r cynnig ar gael ar sesiynau o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn ystod y tymor yn unig.
 
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL, “Mae’r Rhyl a Prestatyn yn gyrchfannau gwych ar gyfer gwyliau a diwrnodau allan, ac rydym yn gwybod o brofiad pa mor brysur yw ein hatyniadau a’n cyfleusterau yn yr haf. Rydym yn deall y gall fod yn anodd weithiau i bobl leol gael mynediad at gyfleusterau ar eu stepen drws, felly roeddem eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol a diolch iddynt am eu teyrngarwch a’u cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn mwynhau eu hunain gyda ni dros yr wythnosau nesaf.”
 
Mae manylion llawn ar gael ar Cynnigion – Denbighshire Leisure Ltd  Mae telerau ac amodau’n berthnasol.