Mae Caffi R yng Nghanolfan Grefft Rhuthun a Chaffi 21 yng Nghanolfan Bowlio Gogledd Cymru, Prestatyn, yn ailagor y mis hwn ar ôl cyfnod o fod ar gau am adnewyddiadau helaeth.

Mae dau fwyty Sir Ddinbych yn ailagor y mis Hydref hwn gydag adnewyddiad llawn, bwydlenni newydd bendigedig, gwedd newydd fodern, ac maent yn dod â llu o swyddi newydd i’r ddwy ardal.

Mae’r thema newydd gyffrous yn y ddau leoliad yn cynnwys brandio newydd, dodrefn, addurn a bwydlenni bendigedig newydd a lleol a fydd yn gobeithio i annog pobl leol i fwyta allan eto’r Hydref hwn.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych: “Rydyn ni wrth ein boddau i fod yn ailagor Caffi R yn Rhuthun ac yn lansio Caffi 21, ar ôl yr ychydig flynyddoedd diwethaf sydd wedi bod yn anodd i’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn Sir Ddinbych ac rydym yn falch o ddod â mwy o gyfleoedd cyflogaeth i’r ardaloedd lleol hefyd. Mae’r ddau gaffi wedi’u hadnewyddu i’r safon uchaf a gobeithiwn y bydd hyn yn annog mwy o bobl i fwyta allan yr Hydref a’r Gaeaf hwn. ”

Mae Caffi R wedi cael ei adnewyddu i gyd, gan gynnwys seddi ychwanegol, addurn newydd ac mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn hapus iawn i groesawu Prif Gogydd newydd i’r gegin, a fydd yn chwipio’i fynnu bwydlen newydd wedi ei lenwi â chynnyrch lleol.

Caffi 21 yw’r bwyty newydd yng nghanolfan Bowlio Gogledd Cymru, fe enwir ar ôl nifer y pwyntiau y mae pob chwaraewr yn anelu ato mewn gêm o fowlio dan do. Mae’r caffi wedi’i foderneiddio gyda naws groesawgar, digon o seddi a bwydlen fendigedig newydd yn defnyddio cynnyrch lleol.

Mae’r ddau fwyty yn groesawgar i gŵn, ac mae croeso i’r teulu i gyd (gan gynnwys y ci) I fwynhau cinio rhost Hamdden Sir Ddinbych arbennig a’r pwdinau Swydd Efrog anferthol.

Unwaith eto, mae’r brand coffi cenedlaethol Costa wedi partneru â Hamdden Sir Ddinbych ac mae’n cael ei osod yng Nghaffi R, gan ddod â’r blas poblogaidd i’r Ganolfan Grefft.

Ychwanegodd Jamie: Bydd cwsmeriaid wrth eu bodd gyda’r bwytai ar eu newydd wedd. Bydd y bwydlenni’n llawn dop o gynnyrch lleol, a byddent yn cael eu canmol gan amrywiaeth o gacennau a theisennau cartref lleol. Caffi R a Chaffi 21 fydd y llefydd i fod i ddal i fyny gyda ffrindiau, i gael cinio allan gyda’r teulu ac i fwynhau ein cinio Dydd Sul enwog. Nid yw’n stopio yno, yn y gwanwyn byddwn yn agor gyda’r nos a bydd ardaloedd eistedd awyr agored newydd yn y ddau leoliad.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau Facebook Caffi R a Chanolfan Bowlio Gogledd Cymru.