Talent gomedi o’r radd flaenaf yn dod i Theatr y Pafiliwn Rhyl wrth i CHUCKL. ddychwelyd gyda Russell Kane a Gwesteion Arbennig
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) yn falch iawn o gyhoeddi noson o gomedi fyw ragorol wrth i CHUCKL. ddod â ser comedi i Theatr Pafiliwn y Rhyl ar nos Iau 21ain Mai 2026.
Wedi’w harwain gan y digrifwr arobryn Russell Kane, mae’r sioe yn addo noson egnïol o chwerthin, gyda chymysgedd o berfformwyr sefydledig a sêr newydd gan gynnwys Stephen Bailey a gwesteion arbennig. Mae’r perfformiad i ddechrau am 7:30pm, gyda thocynnau’n costio £28.
Yn ymuno â Russell Kane ar y llwyfan mae:
Stephen Bailey – wyneb cyfarwydd o Live at the Apollo, Would I Lie To You? a House of Games Richard Osman. Yn adnabyddus am ei arddull gynnes a chwilfrydig, mae’n gryf fel cyflwynydd a perfformiwr stand-yp.
Sol Bernstein – yr hunangyhoeddedig “y digrifwr Iddewig byw hynaf yn y byd”, yn cyflwyno set glasurol, hen ffasiwn yn llawn un llinellau miniog a straeon anghredadwy.
Bennett Arron – awdur a pherfformiwr arobryn, crëwr How To Steal An Identity a gyrhaeddodd restr fer BAFTA, gyda chredydau teledu a radio helaeth gan gynnwys Have I Got News For You a Mock The Week.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae dod â pherfformwyr o safon Russell Kane i’r Rhyl yn gyfle gwych i gynulleidfaoedd lleol brofi comedi o’r radd flaenaf ar eu stepen drws. Rydym yn falch o barhau i ddenu digwyddiadau o ansawdd uchel i Theatr y Pafiliwn, gan gefnogi ein cynnig diwylliannol a’r economi leol.”
Yn adnabyddus am ei gyflwyniad cyflym a’i hiwmor arsylwadol miniog, mae Russell Kane yn cael ei ystyried yn eang fel un o berfformwyr byw mwyaf deinamig y DU, gan sicrhau noson bythgofiadwy i gefnogwyr comedi.
Mae’r digwyddiad diweddaraf hwn yn rhan o raglen lawn yn Theatr Pafiliwn y Rhyl, gan atgyfnerthu ei statws fel lleoliad blaenllaw ar gyfer adloniant byw yn y rhanbarth.
Mae tocynnau ar gael nawr trwy swyddfa docynnau Pafiliwn y Rhyl a’r wefan.
Chuckl. Rhyl with Russell Kane, Stephan Bailey & Special Guests – Rhyl Pavilion
