Mae enwebiadau nawr ar agor ar gyfer gwobrau chwaraeon a chelfyddydau Cymunedol mawreddog yn Sir Ddinbych
Mae Gwobrau Cymunedau Bywiog HSDd yn dathlu ein cymuned yn Sir Ddinbych a’r bobl sy’n byw yma. Bydd y ffocws ar y rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth mewn chwaraeon neu weithgaredd, y celfyddydau a diwylliant.
Mae HSDd wedi trefnu Gwobrau Chwaraeon Cymunedol Sir Ddinbych yn flaenorol ac yn llwyddiannus. Cynhaliwyd y gwobrau blynyddol hyn ym Mhafiliwn Llangollen ac roeddent yn dathlu llwyddiannau ac ymroddiad y gymuned chwaraeon yn Sir Ddinbych. Ar gyfer ein Gwobrau Cymunedau Bywiog HSDd newydd, rydym yn symud i dref arfordirol y Rhyl a Phafiliwn y Rhyl.
Bydd y digwyddiad yn anrhydeddu unigolion, grwpiau, timau, ysgolion a chlybiau sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth mewn chwaraeon neu weithgaredd, y celfyddydau a diwylliant.
Cynhelir y seremoni ar 22 Tachwedd 2023 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl a disgwylir y bydd dros 400 o westeion, gan gynnwys trigolion, partneriaid a busnesau lleol yn mynychu’r digwyddiad mawr hwn yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl ochr yn ochr â’r holl enwebeion a’u teuluoedd.
Bydd enwebiadau ar gyfer y gwobrau yn agor ar 5ed Mai, gyda HSDd yn annog holl aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan ac enwebu rhywun yn eu cymuned trwy’r wefan.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae gwobrau Cymunedau Bywiog HSDd yn ddigwyddiad gwych sy’n helpu i gydnabod a dathlu llwyddiant unigolion, timau, clybiau ac ysgolion yn Sir Ddinbych. Rydym wrth ein bodd yn dod â’r digwyddiad hwn i theatr Pafiliwn y Rhyl, ac mae’n wych cael cynnal y digwyddiad mawreddog hwn ym mwyty a bar 1891 eleni. Mae’n lleoliad gwych yn un o’n cyfleusterau blaenllaw na allwn aros i’w rannu â’r gymuned. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn yr holl enwebiadau, ac rwy’n siŵr y bydd hynny’n rhoi tasg anodd i’r beirniaid ddewis ohoni!”
Bydd y beirniadu ar gyfer y gwobrau yn digwydd ym mis Awst a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi’n fyw ar lwyfan Theatr Pafiliwn y Rhyl ym mis Tachwedd.
Am fwy o wybodaeth ac i enwebu ewch i: https://denbighshireleisure.co.uk/ac-sports-awards-23/
HSDd yn Disgleirio Golau ar Wythnos Rhwng Cenedlaethau Byd-eang
Bydd HSDd yn goleuo atyniadau yn Sir Ddinbych yr wythnos hon i gefnogi Wythnos Rhwng Cenedlaethau Byd-eang.
Bydd Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, llochesi’r Promenâd a’r rhaeadr Arena Digwyddiadau i gyd yn cael eu goleuo’n binc rhwng 24 a 28 Ebrill, i gefnogi Wythnos Rhwng Cenedlaethau’r Byd, ac i dynnu sylw at ddau brosiect traws-genhedlaeth wych a arweinir gan eu tîm Celfyddydau Cymunedol eu hunain.
Diolch i gyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae tîm Celfyddydau Cymunedol HSDd wedi bod yn brysur yn hwyluso dau brosiect Stori Cyfeillion Rhwng Cenedlaethau llwyddiannus iawn, un gydag Ysgol Frongoch ac Inffyrmari Dinbych, a’r ail gyda Chartref Gofal Dewi Sant yn y Rhyl ac Ysgol Dewi Sant. Mae’r prosiect sy’n ceisio cysylltu pobl ifanc a hŷn o fewn cymunedau lleol, trwy ddefnyddio straeon a chelf, wedi cael derbyniad rhagorol. Gan weithio gydag artist lleol, sy’n cydlynu’r gwaith rhwng y ddwy genhedlaeth wahanol, mae’r ddau grŵp yn cyfarfod o’r diwedd ar ddiwedd y prosiect i fwynhau’r hyn y maent wedi’i gyflawni gyda’i gilydd, mewn dathliad gwirioneddol rhwng cenedlaethau!
Mae Wythnos Rhwng Cenedlaethau Byd-eang yn ymgyrch sy’n ceisio annog ac ysbrydoli unigolion, grwpiau, a sefydliadau ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang, i gysylltu pobl o wahanol grwpiau oedran, gan ddod â nhw at ei gilydd mewn gweithgareddau amrywiol, a chreu ffyrdd newydd o gysylltu cenedlaethau.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd “Mae ein tîm Celfyddydau Cymunedol wedi bod yn ymwneud â dau brosiect gwych, i gefnogi Wythnos Rhwng Cenedlaethau Byd-eang, ac mae’r ddau wedi cael derbyniad da iawn ac wedi’u mwynhau’n fawr gan yr holl gyfranogwyr. Rydym yn falch o fod wedi gwylio datblygiad y prosiect yn dod i gasgliad mor ysbrydoledig, ac rydym hefyd yn falch iawn o oleuo mewn pinc i gefnogi ymgyrch mor greadigol ac ysgogol.”

Hamdden Sir Ddinbych yn dathlu staff yn cymryd rhan mewn gêm bêl-droed i ferched sy’n torri record yn Wrecsam
Mae Hamdden Sir Ddinbych yn dathlu ar ôl i un o’u tîm fod yn rhan o gêm bêl-droed i ferched wnaeth dorri record yn CPD Wrecsam a gefnogir gan Ryan Reynolds.
Roedd Del Morgan, sy’n gweithio i’r tîm Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych yn chwarae yn y gôl fel rhan o ddiwrnod torri record ar Gae Ras Wrecsam, wrth i 9,511 o gefnogwyr wylio’r gêm derfynol tymor Genero Adran North 2022/23 rhwng CPD Merched Wrecsam a Nomads Cei Connah.
Yn chwarae yn y gôl i Wrecsam, llwyddodd tîm Del i ennill a dod yn Bencampwyr. I goroni’r cyfan, llongyfarchodd Ryan Reynolds Ferched CPD Wrecsam ar chwarae ‘yn anhygoel’ i ennill y teitl. Roedd y seren Hollywood 46 oed, sydd yn gyd-berchen ochr Cymru CPD Wrecsam gyda chyd actor Rob McElhenney ers 2021, yn ddathlu’r clwb i ferched yn mynd â theitl Genero Adran North adref dros y penwythnos.
Dywedodd Del Morgan, Cydlynydd Prosiect Chwaraeon Cymunedol tîm Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych: “Roedd y gêm yn hysbyseb wych ar gyfer pêl-droed i ferched, o ran ansawdd y gêm a phresenoldeb anhygoel o 9511. Bydd y profiad yn un o brofiadau pêl-droed gorau fy mywyd ac ni fyddaf byth yn ei anghofio. Rwy’n falch o chwarae i CPD Wrecsam ac yn gyffrous am yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol.”
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, Jamie Groves: “Rydym yn hynod falch o berfformiad Del a’r tîm cyfan yn Wrecsam. Mae Del yn aelod gwych o’r tîm sy’n ysbrydoli menywod a merched ar draws y wlad i ymuno â phêl-droed. Rydym mor falch o’i chyfraniad at CPD Wrecsam ac yn dymuno’r gorau iddi yn y gemau nesaf!”
Roedd y clwb merched wedi ennill yr 11eg gêm yn y gynghrair ar ddechrau mis Mawrth, gan sicrhau’r fuddugoliaeth a chododd y Dreigiau Coch y tlws pan ddaeth tymor y gynghrair i ben ddydd Sul. Roedd y pencampwyr wedi ennill Nomads Cei Connah 2-1 yn y Cae Ras.
Roedd Del wedi dod drwy academi bêl-droed Lerpwl. Roedd ei pherfformiadau cyson i Gymru ar lefel o dan 19 hyd yn oed wedi arwain at symud i dîm Cynghrair Merched Everton yn 2015. Roedd wedi arwyddo i chwarae i Wrecsam am yr ail dro yn 2021. Mae hefyd yn hyfforddwr hynod gymwys ac uchel ei pharch, mae ganddi Drwydded Gôl-geidwad A UEFA ac mae’n hyfforddwr gôl-geidwaid Merched Dan 19 Cymru.
Mae’r tîm Cymunedau Bywiog HSDd yn cynnal nifer o fentrau chwaraeon i’r cyhoedd gymryd rhan, am fwy o wybodaeth ewch i https://www.denbighshireleisure.co.uk/activecommunities




Panto Nadolig i’r Teulu ym Mhafiliwn y Rhyl wedi’i gyhoeddi gyda thocynnau nawr ar werth
Mae HSDd yn hapus iawn i gyhoeddi mai ‘Jack and the Beanstalk’ fydd y Pantomeim eleni a fydd yn dod i’r Rhyl ar gyfer Nadolig 2023.
Yn dilyn pantomeim hynod boblogaidd y llynedd, mae Anton Benson Productions yn dychwelyd i Bafiliwn y Rhyl gyda sgript a enwebwyd am wobr a chast serennog, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
Mae stori dylwyth teg Jac a’r Goeden Ffa yn dangos Jac, bachgen cefn gwlad dlawd, sy’n gwerthu buwch y teulu am lond llaw o ffa hudol, sy’n tyfu’n goeden ffa enfawr sydd yn ymestyn i’r cymylau. Mae Jac yn dringo’r goeden ffa ac yn ffeindio’i hun yng nghastell cawr anghyfeillgar.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ar y cyd â chynyrchiadau Anton Benson eto ar gyfer panto Nadolig eleni. Mae Panto yn rhan enfawr o brofiad y theatr ac rydym yn wirioneddol falch o’r cynyrchiadau anhygoel sydd gennym yma ym Mhafiliwn y Rhyl. Mae ein tîm technegol a’r holl staff ym Mhafiliwn y Rhyl yn gweithio’n galed iawn i wneud i’n hawditoriwm deimlo fel lle hudolus i deuluoedd yn ystod y Nadolig ac mae’n draddodiad Nadoligaidd perffaith.”
Dywedodd Anton Benson o Anton Benson Productions: “Ni allwn aros i ddychwelyd i Bafiliwn y Rhyl eto eleni, gyda phantomeim newydd gwych sy’n sicr o gael y teulu cyfan i chwerthin o’r dechrau i’r diwedd. Ymunwch â ni am reid llawn hwyl a sbri drwy wlad y panto llawn hwyl!”
Mae tocynnau nawr ar werth ar wefan Pafiliwn Y Rhyl: https://mpv.tickets.com/schedule/?agency=PAVV_MPV&orgid=55080#/?event=jack&view=list&includePackages=false
Mentrau ynni yn mynd i’r afael ag allyriadau carbon safleoedd hamdden
Mae allyriadau wedi gostwng mewn dau o safleoedd Hamdden Sir Ddinbych Cyf (HSDd) ar ôl i waith gwres carbon isel ac ynni adnewyddadwy gael ei gwblhau.
Mae Tîm Ynni Adain Eiddo Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i fynd ati i leihau ôl-droed carbon adeiladau’r Cyngor. Digwyddodd hyn ar ôl i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac mae wedi ymrwymo i fod yn Gyngor Di-garbon Net ac Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2023.
Roedd yr ymrwymiad yma’n cynnwys lleihau allyriadau yr ystâd gyfan.
Gwnaed gwaith mewn partneriaeth gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf yng Nghanolfan Hamdden Huw Jones a Chanolfan Fowlio Gogledd Cymru sy’n cael eu rhedeg gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf, ac maent yn enghreifftiau diweddar o ymgyrch barhaus y Cyngor i leihau allyriadau carbon.
Gosodwyd system adfer gwres blaengar ynghyd â systemau pwll a gwres canolog a gafodd eu huwchraddio.
Roedd y gwaith a wnaed, oedd yn cynnwys gosod paneli solar PV a goleuadau LED y tu mewn a thu allan, yn golygu bod yr allyriadau carbon wedi gostwng bron 35%.
Mae gosod paneli Solar PV yng Nghanolfan Ryngwladol Fowlio Gogledd Cymru a Café 21 wedi helpu’r ganolfan i leihau allyriadau carbon dros 5 tunnell.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn parhau i weithio i leihau ein ôl-troed carbon ym mhob un o’n hadeiladau ac rydym ni’n ddiolchgar am waith Tîm Ynni yr Adain Eiddo.
“Mae’r gwaith yn y ddau safle sy’n cael eu rhedeg gan HSDd i leihau’r allyriadau hefyd yn helpu i greu amgylchedd mwy cyfforddus i staff a’r rhai sy’n ymweld ac yn defnyddio’r cyfleusterau. Rydym ni’n arbennig o falch o’n partneriaeth a’r cydweithio gyda HSDd i gyflwyno’r agenda pwysig yma.”
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, Jamie Groves: “Mae gennym ni ymrwymiad yn HSDd i helpu’r Cyngor i leihau’r ôl-troed carbon, ac rydym ni’n ddiolchgar iawn am y buddsoddiad i’r cyfleusterau. Mae ein Bwrdd neu Gyfarwyddwyr yn cydnabod y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy ddarparu ar y flaenoriaeth bwysig hon i’r Cyngor yn sgil natur ein busnes.”
Penwythnos Pasg arbennig DLL wedi’i drefnu ar gyfer y teulu i gyd
Mae gan DLL rywbeth i bawb y Pasg hwn, gyda llu o ddigwyddiadau ar draws eu bwytai a’u hatyniadau, gan ei wneud yn strafagansa gwyliau Pasg ar draws Sir Ddinbych.
Mae digwyddiadau a hwyl wedi’u cynllunio ar draws Bwyty 1891, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Cwt y Traeth, Cymunedau Bywiog, SC2, Hamdden Llangollen, Corwen a Ninja TAG Rhyl, gan sicrhau bod rhywbeth i bawb ei fwynhau dros y penwythnos.
Mae gan SC2 gynlluniau cyffrous y Pasg hwn gyda chystadleuaeth ‘Rasio’r Bwni Pasg’ yn Ninja TAG, yn annog pobl i gyrraedd brig y sgorfwrdd, a ‘Helfa wyau’ yn Chwarae Antur gyda helfa wyau deinosoriaid yn rhoi cyfle i blant ennill yr wyau Pasg. Gyda lleoedd yn llenwi’n gyflym, anogir teuluoedd i archebu ar-lein yn gynnar i osgoi cael eu siomi.
Mae Cymunedau Bywiog DLL yn hynod o brysur dros wyliau ysgol y Pasg, gan ddod â’u ‘Diwrnodau Hwyl i’r Teulu’ hynod boblogaidd a rhad ac am ddim yn ôl, gyda llu o weithgareddau wedi’u cynllunio ar draws y sir yn Llangollen, Corwen, Llanelwy, Rhuthun a’r Rhyl.
Mae Theatr Pafiliwn y Rhyl yn croesawu cast serennog y pantomeim Rapunzel ar y llwyfan, gan gynnwys seren Eastenders ac I’m a Celebrity, Dean Gaffney, Joanne Clifton o Strictly a Jamie a Chuck a ddaeth yn ail gyda Britain’s Got Talent. Bydd y cynhyrchiad difyr yn cael ei berfformio 3 gwaith dros benwythnos y Pasg, ddwywaith ar ddydd Sadwrn 8fed am 2pm a 6pm, ac unwaith ar ddydd Sul 9fed am 2pm. Gyda chast cryf, mae tîm y Swyddfa Docynnau yn cynghori teuluoedd i archebu ymlaen llaw ar gyfer y seddi gorau.
Mae Cwt y Traeth, Nova Prestatyn hefyd yn cynnal diwrnod hwyl i’r plant, gyda gorsaf paentio gwynebau, , diddanwr plant a llawer o ddanteithion Pasg yn y ffatri hufen iâ!
Mae Bwyty a Bar 1891 yn edrych ymlaen at groesawu Daniel Winters ar ddydd Sadwrn 8fed Ebrill a fydd yn talu teyrnged i Boy George, yn perfformio ei holl glasuron i gynulleidfa Bwyty 1891. Gall cwsmeriaid sydd yn dod am bryd o fwyd i 1891 fwynhau’r perfformiadau cerddoriaeth fyw am ddim, neu gall y rhai sydd eisiau mwynhau diodydd yn unig fynychu’r perfformiad byw am £5 y tocyn.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn gyffrous iawn i allu cynnal cymaint o ddigwyddiadau ar draws safleoedd DLL y Pasg hwn, gyda gweithgareddau’n digwydd o Langollen i’r Rhyl, mae rhywbeth i gadw pawb yn brysur dros benwythnos y Pasg a gwyliau’r ysgol. Dim ond dechrau yw hyn ar ein cynllun digwyddiadau cyffrous ar gyfer y flwyddyn ac ni allwn aros i ddathlu gyda chi fis nesaf!”
I gael rhagor o wybodaeth am Benwythnos Pasg DLL, edrychwch ar dudalen Facebook DLL.
Mae Sioe Awyr y Rhyl yn ôl yr haf hwn gyda rhestr anhygoel, gan gynnwys perfformiadau o’r radd flaenaf yn ystod dau ddiwrnod Gŵyl y Banc ym mis Awst.
Mae’r Saethau Cochion a Hediad Coffa Brwydr Prydain wedi eu cadarnhau ar gyfer arddangosiadau yn yr awyr yn ystod dau ddiwrnod y sioe ym mis Awst.
Mae’r sioe awyr boblogaidd yn prysur ddod yn ddigwyddiad glan môr mwyaf gogledd Cymru sydd AM DDIM, a bydd y sioe yn 2023 yn cynnwys arddangosiadau awyr rhyfeddol ac atyniadau ac adloniant ar y tir ddydd Sadwrn a dydd Sul, 26-27 Awst 2023.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref Rhyl yn falch o gyhoeddi dechrau ein rhestr anhygoel ar gyfer Sioe Awyr y Rhyl, sydd bellach yn enwog ledled y DU. Mae’n mynd i fod yn sioe syfrdanol eto eleni, ac mae Sioe Awyr y Rhyl bellach yn cael ei hystyried yn un o’r digwyddiadau mwyaf trawiadol ar hyd arfordir gogledd Cymru. Mae Canol Tref y Rhyl a’r Arena Ddigwyddiadau bob amser yn llawn cyffro, ac mae cael y Saethau Cochion a Hediad Coffa Brwydr Prydain yma ar gyfer y ddau ddiwrnod eleni yn anhygoel! Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr a phobl leol i’r Rhyl ac arfordir Sir Ddinbych i fwynhau’r sioe boblogaidd hon.”
Dywedodd Graham Boase, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r digwyddiad pwysig hwn yn rhoi hwb sylweddol i economi’r Rhyl a chymunedau ehangach bob tro mae’n cael ei lwyfannu, ac mae’r rhestr o’r rhai sy’n cymryd rhan eleni yn wirioneddol arbennig. Mae gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf hanes cadarn o gynnal digwyddiadau mawreddog o’r fath, ac rydym wrth ein boddau cael gweithio mewn partneriaeth gyda hwy i ddarparu digwyddiad a fydd yn denu nifer fawr o bobl. Mae ei boblogrwydd wedi tyfu dros y blynyddoedd, ac mae’r Sioe Awyr yn enwog ym mhob cwr o’r DU fel un o brif ddigwyddiadau ei fath. Ni fydd ymwelwyr â’r Sioe Awyr yn cael eu siomi.”
Dywedodd Clerc Tref Cyngor Rhyl: “Mae gan Gyngor Tref y Rhyl bartneriaeth hirsefydlog yn cefnogi sioe awyr ysblennydd y dref. Bydd y digwyddiad enwog rhad ac am ddim hwn o’r radd flaenaf, a’r rhaglen awyr wych a’r atyniadau a gyhoeddir a fydd yn cael eu harddangos eleni yn siŵr o blesio’r torfeydd mawr o drigolion ac ymwelwyr y mae’n eu denu. Bydd y Rhyl hefyd yn elwa o ddenu nifer helaeth o dwristiaid a all brofi’r atyniadau adfywio sydd gan y dref i’w cynnig a darparu twf pwysig yn ein heconomi twristiaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o’r benwythnos gwych hyn o adloniant na ddylid ei golli .”
Tîm Erobatig y Llu Awyr Brenhinol, y Saethau Cochion, yw un o dimau arddangos erobatig gorau’r byd. Yn cynrychioli cyflymder, ystwythder a chywirdeb y Llu Awyr Brenhinol, mae’r tîm yn wyneb cyhoeddus i’r gwasanaeth. Yn hedfan jetiau ‘Hawk’ nodedig, mae’r tîm yn cynnwys peilotiaid, peirianwyr a staff cefnogi hanfodol, gyda phrofiad gweithredol ar y rheng flaen. Yn aml yn arddangos eu siâp Diemwnt Naw enwog, a chyfuniad o ffurfiau agos a hedfan cywir, mae’r Saethau Cochion wedi bod yn arddangos ers 1965.
Cynhelir y Sioe Awyr dros Ŵyl y Banc ym mis Awst, a bydd mwy o fanylion am y digwyddiad yn dilyn maes o law. Mae mwy o wybodaeth ar y wefan swyddogol denbighshireleisure.co.uk/cy/sioe-awyr-rhyl/ ac ar dudalen Facebook Hamdden Sir Ddinbych Cyf.




Lansiad llwyddiannus Clubbercise yn Ninbych a Llangollen yn arwain at ddosbarthiadau ychwanegol
Mae Hamdden Sir Ddinbych yn ychwanegu rhagor o ddosbarthiadau at eu rhaglen Clubbercise hynod boblogaidd ar ôl lansiad llwyddiannus ar draws 4 safle.
Mae llwyddiant aruthrol Clubbercise yn Rhuthun a Nova wedi arwain at ychwanegu 5 dosbarth mewn 4 o ganolfannau. Mae rhestrau aros wedi’u hagor ar gyfer dosbarthiadau yn Llangollen sydd yn llawn ac mae’r dosbarthiadau yn Nova hefyd yn llawn bob wythnos.
Gan ddod â naws noson allan i’ch sesiynau ymarfer, mae Clubbercise yn gymysgedd perffaith o hwyl a ffitrwydd. Mae’r dosbarthiadau, sy’n addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd, yn cael eu cynnal mewn ystafell dywyll gyda goleuadau disgo a ffyn golau Clubbercise, gyda’r ymarferion dawns i gyd wedi’u gosod i anthemau clwb a chaneuon dawns clasurol y 90au.
Mae dosbarthiadau ar gael yn Rhuthun, Dinbych, Llangollen a’r Nova. Mae’r rhain wedi cynnwys gydag aelodaeth o Hamdden Sir Ddinbych ac yn rhoi cyfle i bobl gynyddu ei ffitrwydd a chael hwyl ar yr un pryd bob diwrnod o’r wythnos.
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, Jamie Groves: “Rydym wrth ein bodd gallu rhoi’r profiad gwych hwn i’n haelodau mewn pedwar lleoliad ar draws sir Ddinbych. Mae’r ffaith fod brand rhyngwladol fel Clubbercise yn ymddiried yn HSDd yn anrhydedd ac allwn ni ddim aros i’n haelodau brofi’r dosbarthiadau cwbl unigryw hyn. Ers lansiad Clubbercise mae’r dosbarthiadau wedi bod yn llawn ac mae rhestrau aros wedi’u hagor yn Llangollen a Nova ar gyfer pobl sydd eisiau mynd i’r dosbarthiadau. Dim ond mater o amser yw hi tan y bydd Clubbercise ar gael mewn rhagor o’n safleoedd!”
Yn ddiweddar agorodd HSDd Glwb Dinbych sef y trydydd o’u brand Clwb eithriadol. Mae Clwb Nova, X20 Llanelwy a nawr Clwb Dinbych yn glybiau o’r radd flaenaf lle ceir yr offer ymarfer diweddaraf, dosbarthiadau arbennig, Clwb Seiclo a chaffis Costa Coffee.
Gall aelodau archebu lle wythnos ymlaen llaw ar ap HSDd a gall pobl sydd ddim yn aelodau dalu fesul dosbarth. Am ragor o wybodaeth ewch i: https://denbighshireleisure.co.uk/cy/dll-clubbercise-wel/

‘Caru’r Hyn Ti’n Wneud’ gyda dros 60 o swyddi’n cael eu hysbysebu gan DLL cyn tymor yr Haf
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn annog pobl i ‘garu’r hyn rydych chi’n ei wneud’ gyda hyd at 60 o swyddi ar gael ar draws y sir cyn y cyfnod prysur sydd i ddod.
P’un a ydych yn gweld eich hun yn gweithio yn ein bwytai ac adrannau lletygarwch, neu’n dod yn rhan o’n gweithrediadau hamdden fasnachol, mae gan DLL lawer o rolau ar gael yn amrywio o hyfforddwyr ffitrwydd ac achubwyr bywyd i staff bar a chogyddion; yn ogystal â llawer o rolau staff tymhorol ym mharc dŵr SC2 ac arena Ninja TAG. Mae DLL yn bwriadu ehangu ei weithlu ar draws atyniadau, bwytai a safleoedd hamdden, i ddarparu ar gyfer anghenion cynyddol y busnes.
Mae’r slogan ‘caru’r hyn rydych chi’n ei wneud’ yn pwysleisio’r pwysigrwydd y mae DLL yn rhoi ar ei weithlu i fwynhau eu rôl. Nid yw byth yn ‘swydd yn unig’ i’r cwmni.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Rydym yn gyffrous iawn i ddod â mwy o gyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel i Sir Ddinbych fel un o brif gyflogwyr y Sir, gyda swyddi ar gael ar draws ystod o’n cyfleusterau. Yn DLL, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein cymunedau a chefnogi ein pobl. Rydym yn ymfalchïo yn ein safonau uchel o wasanaethau cwsmeriaid, a dyna pam rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig i’n gweithwyr garu’r hyn maen nhw’n ei wneud gyda DLL.”
Mae recriwtio bellach yn fyw ar wefan DLL. I gael rhagor o wybodaeth ac am wybodaeth ar sut i wneud cais, ewch i: denbighshireleisure.co.uk/cy/gyrfaoedd/
Chwilio newyddion
Newyddion Diweddar
- Brand Technoleg Ymarfer Corff â Chymorth Pŵer newydd Assist Fit yn dod i Glwb y Rhyl 27th Mai 2025
- Partneriaeth newydd rhwng DLL a chwmni hufen iâ artisan o Ynys Môn, Red Boat, i blesio dannedd melys yn Sir Ddinbych 19th Mai 2025
- Atyniadau Sir Ddinbych yn goleuo mewn Coch, Gwyn a Glas i goffáu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop 8th Mai 2025
- Profiad ffitrwydd, ‘y Cyntaf yng Nghymru’, BOX12 yn lansio yng Nghlwb y Rhyl 8th Mai 2025
- Strafagansa Wy Pasg DLL yn diddanu miloedd o gwsmeriaid ledled Sir Ddinbych dros wyliau’r Pasg 30th Ebrill 2025