Cyngerdd Enaid Haf AM DDIM y Rhyl yn cael ei chyhoeddi gan HSDd
Yn dilyn llwyddiant ‘Seaside Soul’ yn 2019, mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gyffrous i gyhoeddi bod cyngerdd hafaidd gwych arall ar thema enaid yn dychwelyd i Arena Digwyddiadau’r Rhyl.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim i’r gymuned, a drefnir gan HSDd Cyf mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Rhyl, yn dathlu cerddoriaeth y 70au, motown a ‘Northern soul’.
Mae Enaid Haf, sydd yn cael ei gynnal ar ddydd Sul 30 Gorffennaf o 12yp ymlaen, yn brolio rhaglen wych gydag adloniant byw gan Northern Soul Live gyda Stefan Taylor a Lorraine Silver; band poblogaidd y 70au Heatwave; band Edwin Starr yn cynnwys Angelo Starr; DJs Northern Soul a teyrnged motown Jackie Marie.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd Cyf: “Rydym yn gyffrous iawn at gynnal digwyddiad i drigolion, ac ymwelwyr Sir Ddinbych, sydd am ddim i’w fynychu, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Fel cwmni, mae’n bwysig i ni wneud yn fawr o’r cyfleusterau gwych ar stepen ein drws, ac mae Arena Ddigwyddiadau y Rhyl yn leoliad awyr agored perffaith ar gyfer y math hwn o ddigwyddiad, gyda digonedd o lefydd parcio gerllaw, ac ond tafliad carreg oddi wrth ein Bwyty a Bar Teras blaenllaw 1891.”
Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Jacquie McAlpine “Bydd digwyddiad Enaid Haf eleni yn gyfle gwych i edrych ymlaen at dymor yr haf, ac mae’n un o’r digwyddiadau rhad ac am ddim sydd i ddod gyda Cyngor Tref y Rhyl yn falch o gefnogi Hamdden Sir Ddinbych i’w gynnal yr haf hwn.”
“Mae’n sicr y bydd y gerddoriaeth gyflym hon a chantorion llawn enaid gan gynnwys amrywiaeth o berfformwyr talentog a DJ’s o’r genre cerddoriaeth hwn yn brynhawn o adloniant rhythmig, dyrchafol a fydd yn ail-greu synau enaid sy’n byw hyd heddiw”.
Ymhlith y prif berfformwyr mae Northern Soul Live, sy’n cynnwys prif fand Northern Soul y DU, The Signatures, gyda prif leisydd Stefan Taylor, ynghyd â eicon wreiddiol Northern Soul Lorraine Silver a’i thrac clasurol Northern Soul ‘Lost Summer Love’.
Yn ymuno â’r criw mae’r band ffync/disgo poblogaidd, Heatwave, a ddaeth i lwyddiant rhyngwladol yng nghanol y 70au a’r 80au, sy’n adnabyddus am y caneuon poblogaidd, “Boogie Nights,” “Always and Forever” a “The Groove Line.”
Brawd y diweddar wych Edwin Starr o UDA, Angelo Starr, fydd yn cyflwyno parti Enaid a Motown. Mae Angelo wedi cymryd yr awenau gyda band gwreiddiol Edwin Starr, sy’n dal i berfformio gyda sacsoffon, allweddellau, offerynnau taro, gitâr arweiniol, gitâr fas, drymiau a chantorion cefnogi. Gyda rhaglen mor anhygoel, mae hwn yn ddigwyddiad na ddylid ei golli!
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: denbighshireleisure.co.uk/summer-soul




Cylchlythyr Aelodau HSDd
O lansio Bŵtcamp a Clubbercise, i adeiladu ein cymuned ffitrwydd gyda ffitrwydd misol a heriau Clwb Seiclo, mae HSDd wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf! Ond dydyn ni ddim yn stopio yno, a gyda’r haf ar y gweill, mae gennym ni lawer o bethau cyffrous o’n blaenau…

Lansiad Bŵtcamp HSDd
Aeth yr aelodau â’u ymarfer ffitrwydd i’r lefel nesaf yn ddiweddar, gyda lansiad Bootcamp HSDd yn Hamdden y Rhyl! Cawsom adborth gwych ar ein Bŵtcamp Xpress a Xtended a werthodd allan syth bin! Cadwch lygad am fwy o wybodaeth am ddyddiadau ar gyfer ein Bŵtcamp Xtreme!
Cyfuno noson allan â ymarfer corff gyda Clubbercise HSDd!
Yn dilyn llwyddiant Clubbercise yn Hamdden Rhuthun a Nova Prestatyn y llynedd, roeddem yn gyffrous i lansio Clubbercise HSDd gyda dosbarthiadau newydd yn Llangollen a Dinbych. Roeddem hefyd wrth ein bodd yn gweld ein hamserlen ddosbarth newydd yn ymddangos ar wefan ryngwladol Clubbercise, ac yn falch o fod yn gweithio gyda brand mor anhygoel! Gallwch ddarllen yr erthygl lawn yma. I gael rhagor o wybodaeth am Clubbercise ac amserlenni dosbarthiadau, ewch i: Clubbercise HSDd


Diwrnod Trwyn Coch
Roedd Diwrnod Trwynau Cochion ym mis Mawrth yn llwyddiant mawr arall, gyda digwyddiadau o ddosbarthiadau Clwb Seiclo ar thema Trwynau Coch, Dawnsathonau, a her rhwyfo Trwynau Coch! Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u rhoddion i achos mor anhygoel! Ar draws 7 safle fe wnaethom godi dros £500 – da iawn i chi gyd!
Sialensau ffitrwydd newydd HSDd!
Rydyn ni wedi clywed eich bod chi’n caru ein campfeydd misol a’n heriau Clwb Seiclo, felly ym mis Mai mi wnaethom ni rhywbeth ychydig yn wahanol. I gefnogi wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, fe wnaethom ganolbwyntio ar weithgareddau sy’n hyrwyddo lles cadarnhaol gan gynnwys Ioga, Pilates, Tai Chi, Nofio, Dawnsio a’r Gampfa. Yma yn HSDd mae gennym rywbeth i bawb, felly peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Cadwch lygad am yr heriau rydyn ni’n eu cynnal dros yr haf i helpu i’ch cadw chi i gyd yn llawn cymhelliant!


Mae Haf ar ei ffordd!
Gwnewch y mwyaf o’ch aelodaeth, a heriwch eich nodau ffitrwydd yr haf hwn gyda’n rig hyfforddi awyr agored unigryw sydd wedi ennill gwobrau yn Hamdden y Rhyl! Gallwch hefyd fynd i ysbryd yr haf gyda’n hystod cardio Excite Live, a all eich trwytho i 9 lle heulog gwahanol o bob rhan o’r byd! Bron na allwch chi deimlo’r tywod o dan eich traed tra byddwch chi’n llosgi’r calorïau hynny! Peidiwch ag anghofio bod eich aelodaeth hefyd yn cynnwys rhaglenni hyfforddi, adolygiadau 1-2-1, a mesuriadau Tanita, felly siaradwch ag un o’n Hyfforddwyr Ffitrwydd i sicrhau eich bod yn aros ar y trywydd iawn ac yn gwneud y gorau o bob ymarfer corff. Bydd Hamdden y Rhyl, Nova, Dinbych, Rhuthun a Chanolfan Hamdden Huw Jones Corwen yn lansio eu hamserlen nofio haf newydd yn fuan, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am y newidiadau i amserau sesiynau a dosbarthiadau, neu cysylltwch â’ch safle lleol pwy’ fydd yn hapus i helpu
HSDd i dadorchuddio Stiwdio X newydd sbon
Gyda niferoedd aelodaeth X20 yn cynyddu’n ddyddiol ac ar sail ein llwyddiannau diweddar, rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi’r buddsoddiad diweddaraf yn un o’n clybiau premiwm. Byddwn yn cyflwyno ystafell hyfforddi swyddogaethol newydd sbon, llawn offer, a fydd yn cael ei defnyddio fel stiwdio dosbarth premiwm, a hefyd yn rhoi’r lle perffaith i aelodau fwynhau sesiynau heini HIIT mewn grwpiau bach. Ni allwn aros i ddatgelu’r datblygiad cyffrous hwn, enghraifft arall o’n hymrwymiad parhaus i ddarparu’r cyfleusterau a’r offer ffitrwydd gorau posibl i’n haelodau.

Beth sydd ymlaen yr Haf yma yn HSDd …
DIGWYDDIAD | LLEOLIAD | DYDDIAD |
PARTI IBIZA | CWT Y TRAETH | 22/07 |
KYLE PARRY | CWT Y TRAETH | 30/06 a 11/08 |
ENAID HAF | ARENA DIGWYDDIADAU Y RHYL | 30/07 |
DIWRNOD I’R TEULU | 1891 | 20/08 |
SIOE AWYR Y RHYL | ARENA DIGWYDDIADAU Y RHYL | 26/08 – 27/08 |
DARGANFOD MWY AR EIN SIANELI CYMDEITHASOL:
Mae gennym lawer mwy o ddigwyddiadau cyffrous yn digwydd ar draws ein safleoedd HSDd dros yr haf! Cadwch lygad ar ein digwyddiadau cymdeithasol am fwy o wybodaeth!
Mae perfformiwr safon fyd-eang arall wedi’i gadarnhau ar gyfer Sioe Awyr y Rhyl ar Ŵyl y Banc mis Awst eleni
Mae Sioe Awyr y Rhyl yn ôl yr haf hwn gyda rhaglen ragorol, gyda’r Strikemaster yn cael ei gyhoeddi ar gyfer y ddau ddiwrnod dros y penwythnos.
Mae’r pâr G-SOAF Strikemaster yn perthyn i Strikemaster Flying Club (SFC) sydd wedi’i leoli yn Wasanaethau Hedfan Milwrol Gogledd Cymru Cyf, Penarlâg, Gogledd Cymru.
Mae’r sioe awyr arobryn yn prysur ddod yn ddigwyddiad glan y môr AM DDIM mwyaf Gogledd Cymru a bydd sioe 2023 yn cynnwys arddangosfeydd awyr ysblennydd ac atyniadau ar y tir ac adloniant ar ddydd Sadwrn 26 a dydd Sul 27 Awst 2023.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref y Rhyl, yn falch iawn o gyhoeddi dechrau ein rhaglen anhygoel ar gyfer Sioe Awyr y Rhyl sydd bellach yn ‘enwog yn y DU’. Mae’n mynd i fod yn sioe anhygoel eto eleni, gyda sioe Awyr y Rhyl bellach yn cael ei hystyried yn un o’r digwyddiadau mwyaf trawiadol ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Mae Canol Tref y Rhyl a’r Arena Digwyddiadau bob amser yn fwrlwm o gyffro, ac mae cael y Saethau Cochion, taith goffa Brwydr Prydain a nawr y pâr Strikemaster dros y ddau ddiwrnod eto eleni, yn anhygoel! Ni allwn aros i groesawu ymwelwyr a phobl leol i’r Rhyl ac arfordir Sir Ddinbych i fwynhau’r sioe arobryn hon.”
Dywedodd Graham Boase, Prif Weithredwr Sir Ddinbych: “Mae’r digwyddiad mawr hwn yn rhoi hwb sylweddol i economi’r Rhyl a chymunedau o gwmpas yr ardal bob tro mae’n cymryd lle, ac mae’r rhaglen ar gyfer eleni yn wirioneddol anhygoel. Mae gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf hanes da o gynnal digwyddiadau mawreddog ac rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â nhw i gyflwyno’r hyn a fydd yn denu tyrfaoedd mawr ar y calendr digwyddiadau. Mae ei phoblogrwydd wedi tyfu dros y blynyddoedd ac mae’r Sioe Awyr yn gwbl enwog ar draws y DU cyfan fel un o’r digwyddiadau mwyaf blaenllaw o’i fath. Ni fydd ymwelwyr â’r Sioe Awyr yn cael eu siomi”.
Mae’r dilyniant y bydd y pâr Strikemaster yn hedfan yn ddeinamig iawn a bydd yn dangos yr awyrennau yn hyfryd, gydag erobateg egni uchel a symudiadau cysylltiedig gosgeiddig. Oherwydd bod gan yr awyren ystod cyflymder eang, bydd yn cael ei harddangos yn agos i’r dorf fel bod yr awyren yn hawdd ei gweld. Bydd cynulleidfaoedd yn gweld hwn yn hedfan dros 400mya, gyda llawer o roliau, dolenni, rholiau casgen a chyflymderau cyflym ac araf. Mae’r injan yn Viper RR 535 gyda 1000 pwys yn fwy na’r injan JP5 Viper. Mae’r gwthiad ychwanegol hwn yn caniatáu i’r awyren gario’r arfau canlynol: 2 x gwn peiriant, hyd at 4 x bom 500 pwys neu 32 roced Sura neu gymysgedd.
Mae’r Saethau Cochion a Hediad Coffa Brwydr Prydain hefyd wedi’u cadarnhau ar gyfer yr arddangosiadau awyr ar draws deuddydd y sioe ym mis Awst.
Dywedodd Clerc Tref Cyngor Tref y Rhyl: “Mae gan Gyngor Tref y Rhyl bartneriaeth hir sefydlog yn cefnogi sioe awyr ysblennydd y dref. Bydd y digwyddiad enwog rhad ac am ddim hwn o’r safon uchaf a’r amrywiaeth awyrol wych a’r atyniadau a fydd yn cael eu harddangos eleni yn siŵr o wefreiddio’r torfeydd mawr o drigolion ac ymwelwyr y mae’n eu denu. Bydd y Rhyl hefyd yn elwa o ddenu nifer fawr o dwristiaid a all brofi’r atyniadau adfywio’r dref a darparu twf pwysig yn ein heconomi twristiaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o’r penwythnos gwych o adloniant hyn na ddylid ei golli.”
Bydd y Sioe Awyr yn cael ei chynnal dros Ŵyl y Banc ym mis Awst, gyda mwy o fanylion i ddilyn am y digwyddiad maes o law. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen Facebook Hamdden Sir Ddinbych Cyf.


Mae HSDd yn annog ffocws ar Les Meddyliol
I gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, sy’n rhedeg o ddydd Llun 15 i ddydd Sul 21 Mai 2023, mae HSDd wedi bod yn annog cwsmeriaid a staff i gymryd ychydig o amser i ganolbwyntio ar eu lles meddyliol.
Mae llawer o astudiaethau wedi dangos y gall gweithgaredd corfforol helpu gydag iechyd meddwl, ac yn ogystal â’u sesiynau ymarfer arferol yn y gampfa neu’r pwll nofio, mae cwsmeriaid wedi cael eu hannog i roi cynnig ar ddosbarthiadau Tai Chi, yoga a pilates.
Mae HSDd hefyd yn annog cwsmeriaid i gefnogi “Diwrnod Gwisgo Gwyrdd” ar ddydd Iau 18 Mai ac wedi goleuo Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, llochesi’r Promenâd a rhaeadr yr Arena Digwyddiadau yn wyrdd i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl .
Mae HSDd hefyd wedi bachu ar y cyfle i atgoffa staff o’r llefydd iawn i fynd am gymorth mewn argyfwng. Mae gan y cwmni ystod o systemau cymorth ar waith ar gyfer staff, gan gynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr sydd ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ac sy’n gwbl gyfrinachol.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr ‘Yn HSDd, mae nifer o’n staff wedi’u hyfforddi’n Gymhorthion Cyntaf Iechyd Meddwl ac ar gael i gefnogi aelodau eraill o’n tîm mewn argyfwng lles. Rydym yn annog staff i gael cyngor ar iechyd meddwl, fel y byddent yn ei wneud gydag unrhyw salwch arall. Rydyn ni i gyd yn gwybod y gall rhai dyddiau fod yn anoddach nag eraill, ac rydyn ni eisiau’r gorau i’n tîm, sy’n golygu cynnig cymorth pryd bynnag maen nhw ei angen.’
Gwobr genedlaethol fawreddog i HSDd
Mae HSDd wedi cael ‘canmoliaeth uchel’ yng Ngwobrau Cyllid Cymru yr wythnos hon.
Mewn seremoni fawreddog yng Nghaerdydd, cafodd Tîm Cyllid HSDd ‘ganmoliaeth uchel’ yn y categori ‘Tîm Cyllid Bach y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Cyllid Cymru 2023.
Cynhaliwyd y Gwobrau cenedlaethol yn Neuadd Dinas Caerdydd ar Fai 12fed ac roedd ffigyrau blaenllaw o’r diwydiant cyllid yn bresennol, ac yn dathlu gwaith gweithwyr cyllid proffesiynol a’u cyfraniad i’r busnesau y maent yn eu cynrychioli.
Roedd y digwyddiad yn arddangos rhagoriaeth mewn Cyllid o bob rhan o Gymru, a HSDd oedd yr unig dîm o Ogledd Cymru i gael eu cydnabod yn eu categori.
Derbyniodd digwyddiad Gwobrwyo 2023 y nifer uchaf erioed o geisiadau, ac roedd categori Tîm Cyllid Bach y Flwyddyn yn arbennig o gystadleuol.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Ers lansio HSDd yn 2020, mae’r tîm cyllid wedi wynebu nifer o heriau, y maent wedi mynd i’r afael â nhw yn uniongyrchol. Maent wedi parhau i fod yn llawn cymhelliant a brwdfrydedd drwy’r amser, gan wneud eu gorau glas i’r cwmni yn barhaus. Mae’r tîm bellach yn gyrru cymaint o elfennau o’n twf, fel eu bod bellach yn gwbl annatod i’n llwyddiant. Hyd at nos Wener maent wedi bod yn arwyr di-glod HSDd, ac mae eu gweld yn ennill cydnabyddiaeth allanol am eu holl waith anhygoel yn fy ngwneud yn falch iawn. Ni allem ofyn am dîm gwell neu fwy brwdfrydig.”
Gweithiwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig yn dechrau ar daith ei breuddwydion i wersyll cychwyn Everest
Roedd cydweithwyr yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn falch o ddymuno’r gorau i hyfforddwr nofio Canolfan Hamdden y Rhyl, Monika Kurlandt, yn gynharach yr wythnos hon wrth iddi deithio i Nepal, a dringo i wersyll cychwyn Everest.
Mae Monika yn heiciwr a dringwr brwd, ac mae wedi breuddwydio erioed am weld Mynyddoedd Himalaia un diwrnod, ac mae ei breuddwyd ar fin cael ei gwireddu o’r diwedd. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Monika wedi heicio’n helaeth ar hyd a lled y DU, yn enwedig yn Eryri ac Ardal y Llynnoedd, ac roedd hi’n teimlo ei bod yn barod i wynebu un o’r heriau dringo mwyaf cyffrous.
Fel hyfforddwr ffitrwydd cymwys, sicrhaodd Monika ei bod wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer y daith, gan weithio’n galed yn y gampfa i gryfhau ei choesau, ei chraidd a rhan uchaf ei chorff. I baratoi ar gyfer ei thaith, bu hi’n heicio am hyd at 6-8 awr ar y tro dros y penwythnosau.
Monika yw ail weithiwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf i ymweld â Mynyddoedd Himalaia. Dringodd yr hyfforddwr ffitrwydd, Kieran Davenport, i’r gwersyll cychwyn ym mis Tachwedd 2022 hefyd, i gefnogi elusen leol, a dywedodd fod y daith yn brofiad unwaith mewn oes.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr, “Mae gennym dîm arbennig yma yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf, ac rwyf bob amser yn falch iawn wrth glywed am eu llwyddiannau anhygoel. Yn eu rolau proffesiynol, mae ein staff wedi ymrwymo i helpu eraill i gyrraedd eu nodau ffitrwydd personol, felly mae’n wych eu gweld yn cyrraedd eu nodau eu hunain. Rydym yn dymuno’n dda i Monika ar ei thaith, ac yn edrych ymlaen at glywed yr hanes pan ddaw hi’n ôl!”

HSDd yn Galw am Artistiaid Lleol i ddylunio gwobrau ar gyfer seremoni wobrwyo Cymunedau Bywiog
Mae HSDd yn edrych i gomisiynu artist proffesiynol neu ddatblygol lleol i greu deuddeg gwobr a fydd yn cael eu cyflwyno i enillwyr y categorïau gwobrwyo ym mis Tachwedd.
Mae seremoni wobrwyo Cymunedau Bywiog HSDd yn dathlu rhagoriaeth chwaraeon a diwylliannol Sir Ddinbych ac yn cael ei gynnal nos Fercher, 22ain Tachwedd 2023 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl. Mae disgwyl y bydd dros 400 o westeion yn bresennol yn y seremoni, gan gynnwys trigolion, partneriaid a busnesau lleol ochr yn ochr â’r holl enwebeion a’u teuluoedd.
Mae HSDd yn gwahodd artistiaid lleol, datblygol a phroffesiynol, sy’n byw a/neu’n gweithio yn Sir Ddinbych, neu artistiaid sy’n wreiddiol o Sir Ddinbych ac sy’n byw yn rhywle arall i anfon eu cynnig dylunio gwobr cyn dydd Llun 19eg Mehefin, gan y bydd y rhestr fer yn cael ei benderfynu ar ddydd Mawrth Mehefin 20fed.
Telir ffi am y comisiwn hwn a bydd y ffi hon yn talu am yr holl gostau dylunio, deunyddiau, cynhyrchu, pecynnu a chludo.
Mae’r meini prawf ar gyfer cynllun y wobr i’w gweld yma: https://denbighshireleisure.co.uk/cy/ac-awards-call-for-artists/
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd “Gyda chymaint o dalent artistig greadigol ac amrywiol yn Sir Ddinbych, roeddem yn meddwl y byddai’r digwyddiad mawreddog hwn yn gyfle perffaith i artistiaid newydd neu broffesiynol lleol arddangos eu gwaith. Mae’n ddathliad gwych, a gyda dros 400 o westeion lleol yn bresennol, gall y cyfle hwn roi lefel wych o amlygiad i’r ymgeisydd buddugol. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn yr holl gynigion dylunio gwobrau ac i allu arddangos talent leol!”
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am y briff creadigol, ffoniwch Siân Fitzgerald, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol ar 01824 708216 / 07717540857 neu e-bostiwch sian.fitzgerald@denbighshireleisure.co.uk
Atyniadau’r Rhyl yn goleuo i ddathlu Coroni’r Brenin
Mae HSDd yn falch o oleuo atyniadau’r penwythnos hwn, i nodi Coroni Ei Fawrhydi Siarl III.
Bydd Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, bwyty a bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau a llochesi arfordirol yn cael eu goleuo’n goch, gwyn a glas, i ddathlu’r achlysur hanesyddol hwn, o ddydd Sadwrn 6ed, hyd at ddydd Llun 8 Mai.
Bydd seremoni’r Coroni, sydd mwy neu lai heb newid ers 900 mlynedd, yn cael ei chynnal yn Abaty San Steffan ddydd Sadwrn 6 Mai, pan fydd dros 2,000 o westeion o bob rhan o’r byd yn ymuno â’r Brenin a’r Frenhines Consort.
Dywedodd Jamie Groves, y Rheolwr Gyfarwyddwr, “Mae HSDd yn falch iawn o ymuno â gweddill y wlad i anfon ein llongyfarchiadau a’n dymuniadau gorau i’w Mawrhydi Siarl III a’i Mawrhydi’r Frenhines Consort ar achlysur eu Coroni, a dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu teyrnasiad. Gobeithio bod pawb yn cael penwythnos gwych!”


Mae enwebiadau nawr ar agor ar gyfer gwobrau chwaraeon a chelfyddydau Cymunedol mawreddog yn Sir Ddinbych
Mae Gwobrau Cymunedau Bywiog HSDd yn dathlu ein cymuned yn Sir Ddinbych a’r bobl sy’n byw yma. Bydd y ffocws ar y rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth mewn chwaraeon neu weithgaredd, y celfyddydau a diwylliant.
Mae HSDd wedi trefnu Gwobrau Chwaraeon Cymunedol Sir Ddinbych yn flaenorol ac yn llwyddiannus. Cynhaliwyd y gwobrau blynyddol hyn ym Mhafiliwn Llangollen ac roeddent yn dathlu llwyddiannau ac ymroddiad y gymuned chwaraeon yn Sir Ddinbych. Ar gyfer ein Gwobrau Cymunedau Bywiog HSDd newydd, rydym yn symud i dref arfordirol y Rhyl a Phafiliwn y Rhyl.
Bydd y digwyddiad yn anrhydeddu unigolion, grwpiau, timau, ysgolion a chlybiau sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth mewn chwaraeon neu weithgaredd, y celfyddydau a diwylliant.
Cynhelir y seremoni ar 22 Tachwedd 2023 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl a disgwylir y bydd dros 400 o westeion, gan gynnwys trigolion, partneriaid a busnesau lleol yn mynychu’r digwyddiad mawr hwn yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl ochr yn ochr â’r holl enwebeion a’u teuluoedd.
Bydd enwebiadau ar gyfer y gwobrau yn agor ar 5ed Mai, gyda HSDd yn annog holl aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan ac enwebu rhywun yn eu cymuned trwy’r wefan.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae gwobrau Cymunedau Bywiog HSDd yn ddigwyddiad gwych sy’n helpu i gydnabod a dathlu llwyddiant unigolion, timau, clybiau ac ysgolion yn Sir Ddinbych. Rydym wrth ein bodd yn dod â’r digwyddiad hwn i theatr Pafiliwn y Rhyl, ac mae’n wych cael cynnal y digwyddiad mawreddog hwn ym mwyty a bar 1891 eleni. Mae’n lleoliad gwych yn un o’n cyfleusterau blaenllaw na allwn aros i’w rannu â’r gymuned. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn yr holl enwebiadau, ac rwy’n siŵr y bydd hynny’n rhoi tasg anodd i’r beirniaid ddewis ohoni!”
Bydd y beirniadu ar gyfer y gwobrau yn digwydd ym mis Awst a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi’n fyw ar lwyfan Theatr Pafiliwn y Rhyl ym mis Tachwedd.
Am fwy o wybodaeth ac i enwebu ewch i: https://denbighshireleisure.co.uk/ac-sports-awards-23/
Chwilio newyddion
Newyddion Diweddar
- Atyniadau Sir Ddinbych yn goleuo mewn Coch, Gwyn a Glas i goffáu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop 8th Mai 2025
- Profiad ffitrwydd, ‘y Cyntaf yng Nghymru’, BOX12 yn lansio yng Nghlwb y Rhyl 8th Mai 2025
- Strafagansa Wy Pasg DLL yn diddanu miloedd o gwsmeriaid ledled Sir Ddinbych dros wyliau’r Pasg 30th Ebrill 2025
- Sous Chef – 1891 y Rhyl 28th Ebrill 2025
- Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwesteion – DLL 28th Ebrill 2025