Mae’r haf yn dechrau yn y Rhyl y penwythnos hwn wrth i DLL roi dros 500 o docynnau AM DDIM i agoriad y Pad Sblashio yn SC2.
Mae’r cyfrif i lawr wedi dechrau ar gyfer agoriad y Pad Sblashio yn SC2 y Rhyl, ac mae DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn rhoi dros 500 o docynnau am ddim i roi cyfle i bobl leol brofi’r Pad Sblashio cyn yr Haf.
Fel rhan o gynigion ‘Teyrngarwch Lleol’ DLL, mae’r Pad Sblashio SC2 yn rhad ac am ddim y dydd Sadwrn hwn ar gyfer diwrnod cyntaf yr agoriad gan fod y tywydd i fod dros 20 gradd. Mae tocynnau’n mynd yn fyw ar SC2rhyl.co.uk am 9am y dydd Sadwrn hwn, 23ain Mai. Gyda’r galw yn debygol o fod yn uchel, dylai cwsmeriaid archebu ar-lein gan y bydd y tocynnau’n mynd ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.
Bydd y Pad Sblashio ar agor ar benwythnosau a gwyliau tan ddiwedd yr haf, yn dibynnol ar y tywydd, a bydd DLL yn cynnig sesiynau AM DDIM pellach bob dydd, ar ôl 4pm, hefyd wedi’u hanelu at bobl leol sy’n gweithio yn ystod y dydd. Bydd tocynnau ar gyfer y sesiynau am ddim yn cael eu rhyddhau am 9am bob dydd.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae pawb yn DLL yn gyffrous iawn i ailagor ein Pad Sblashio y penwythnos hwn! Rydym wedi bod yn monitro rhagolygon y tywydd tymor hir, ac wedi gweithio’n galed dros sawl wythnos i sicrhau bod planhigion, peiriannau, nodweddion dŵr ac ansawdd dŵr y Pad Sblashio yn barod ar gyfer y tywydd cynnes a ragwelir ar gyfer yr wythnos i ddod. Rydym yn dod â’r sesiynau poblogaidd am ddim ar ôl 4pm yn ôl sydd wedi’u hanelu at bobl leol sy’n gweithio yn ystod y dydd, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n colli allan ar y Pad Sblashio hefyd! Mae’r rhagolygon yn addo haul i ni’r penwythnos hwn ac roedden ni eisiau gwneud rhywbeth i drigolion lleol cyn tymor prysur yr haf, felly rydym yn cynnig dros 500 o docynnau am ddim y dydd Sadwrn hwn i gychwyn gŵyl y banc. Mae wastad yn wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau’r parc dŵr ac nawr allwn ni ddim aros i weld trigolion ac ymwelwyr yn mwynhau’r Pad Sblashio hefyd, yn cael hwyl ac yn creu atgofion gyda ffrindiau a theulu.”
Ewch i www.sc2rhyl.co.uk i archebu – Mae tocynnau’r Pad Sblashio yn mynd ar-lein am 9am ddydd Sadwrn, 23ain Mai, ar gyfer y sesiynau am ddim y diwrnod hwnnw, yn ogystal â thocynnau ar gyfer archebion rheolaidd drwy gydol y gwyliau. Mae angen archebu’r sesiynau dyddiol rhad ac am ddim ar y diwrnod, er mwyn sicrhau nad yw lleoedd yn cael eu gwastraffu a bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu mwynhau’r Pad Sblashio.
