Sioe Awyr y Rhyl yn ennill Gwobr Dwristiaeth ‘Digwyddiad Gorau’r Flwyddyn’
Enillodd Sioe Awyr y Rhyl, a ddychwelodd eleni ar ôl saib o ddwy flynedd, wobr ‘Digwyddiad Gorau’r Flwyddyn’ yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales 2022, mewn seremoni fawreddog yn Llandudno. Roedd y wobr yn cydnabod digwyddiad oedd wedi ‘creu effaith economaidd ac wedi gwella proffil y dref lle cafodd ei gynnal’.
Mae’r Sioe Awyr yn ddigwyddiad hynod boblogaidd sy’n cael ei drefnu a’i gynnal gan dîm digwyddiadau bach o fewn Hamdden Sir Ddinbych Cyf., ac mae’n denu miloedd o ymwelwyr i’r Rhyl bob blwyddyn, o selogion awyrennau i’r rhai sy’n dod i fwynhau’r awyrgylch a’r lleoliad ar lan y môr, a phawb yn y canol. Bu’r tîm, gyda chefnogaeth byddin o wirfoddolwyr, yn gweithio’n hynod galed i drefnu dau ddiwrnod llawn o arddangosfeydd cyffrous.
Roedd ymwelwyr eleni wrth eu boddau’n gweld y Red Arrows, â’u perfformiadau gwych fel y brif arddangosfa ar y ddau ddiwrnod – am y tro cyntaf yn y Rhyl. Hefyd yn un o’r prif ddigwyddiadau oedd yr Eurofighter Typhoon a’r awyren fomio Lancaster, ynghyd â nifer o bethau i’w gweld ar y tir. Gwnaed amcangyfrif bod tua 100,000 o bobl wedi bod i’r digwyddiad ar y ddau ddiwrnod, a fydd heb os wedi rhoi hwb i sawl busnes yn y dref a’r ardal gyfagos.
Eleni, fe wnaeth Hamdden Sir Ddinbych Cyf. ehangu darpariaeth y Sioe Awyr drwy gynnig pecynnau corfforaethol yn eu prif fwyty, Bwyty 1891, gyda golygfeydd arbennig o’r Sioe, ac fe aeth y tocynnau i gyd. Hefyd yn rhan o’r pecyn oedd parti steil Ibiza ar ôl y Sioe ar y Teras, yn cynnig cerddoriaeth fyw, bwyd a choctêls, oedd yn golygu bod y Promenâd a Rhyl ei hun yn brysur gyda’r nos hefyd.
Dywedodd Jamie Groves, y Rheolwr Gyfarwyddwr, “Mae cynnal digwyddiad mawr yn llwyddiannus bob tro’n gamp, ond roedd ailgychwyn ar ôl y pandemig yn golygu bod angen i’r tîm fynd yr ail filltir i gynnal chwip o ddigwyddiad dros ddeuddydd, nid yn unig i’r cwsmeriaid, ond i’r dref ei hun. Rydyn ni’n falch iawn o gyflawniadau’r tîm, a hoffem hefyd ddiolch i’r holl sefydliadau fu ynghlwm â’r digwyddiad, yn enwedig Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref y Rhyl – heb eu cyfraniad hael a’u cefnogaeth nhw, ni fyddai posib’ cynnal y digwyddiad.”
Sir Ddinbych yn Goleuo i Ofalwyr
Mae Hamdden Sir Ddinbych yn goleuo adeiladau’r wythnos hon mewn gwyrdd a phorffor i gefnogi Diwrnod Hawliau Gofalwyr.
Bob blwyddyn mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth am anghenion gofalwyr, i’w helpu i fod yn ymwybodol o’u hawliau, ac i roi gwybod iddynt sut a ble y gallant gael cymorth a chefnogaeth. Mae sefydliadau ar draws y DU yn dod at ei gilydd ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr i helpu gofalwyr yn eu cymuned p’un a ydynt yn newydd i ofalu, neu wedi bod yn gofalu am flynyddoedd, a waeth beth fo’u lleoliad.
Bydd Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891 a rhaeadr yr Arena Digwyddiadau i gyd yn cael eu goleuo’n wyrdd a phorffor ddydd Iau, 25 Tachwedd i gefnogi gofalwyr ledled y wlad.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Bob dydd mae llawer o bobl yn dod yn ofalwyr, ac yn aml heb rhagweld. Gall gofalu am rywun arall ddod â llawer o heriau, a gall gwybod ble i gael y cymorth cywir fod yn hollbwysig. Yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf rydym yn falch iawn o oleuo hadeiladau eleni i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch Hawliau Gofalwyr. ”
Mae Hamdden Sir Ddinbych a Chyngor Tref y Rhyl yn annog teuluoedd i fwynhau Digwyddiadau Nadolig rhad ac am ddim sy’n dod i’r Rhyl
Mae hi’n adeg yna o’r flwyddyn eto, mae Pops Nadolig yn ôl i ddechrau dathliadau’r ŵyl!
Mae’r cyngerdd Nadoligaidd blynyddol yn boblogaidd iawn yn y sir ac AM DDIM i bawb ar ddydd Sul 27 Tachwedd yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.
Mae tocynnau am ddim, trwy ffonio Swyddfa Docynnau Pafiliwn y Rhyl a bydd cyfyngiadau o bedwar tocyn i bob cartref.
Mae teyrnged Barry White, Williams Hicks, yr holl ffordd o’r Unol Daleithiau wedi’i gadarnhau fel y prif berfformiwr yng nghyngerdd y Pops Nadolig yn y Rhyl eleni. Bydd The Supreme Dreamgirls a Chôr Ysgol Emmanuel yn ymddangos yn ogystal â William Hicks a fydd yn perfformio caneuon mwyaf poblogaidd Barry White, gyda rhaglen amrywiol o gerddoriaeth i’r gynulleidfa ei mwynhau.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym yn falch iawn o groesawu cyngerdd blynyddol y Pops Nadolig yn ôl i Theatr Pafiliwn y Rhyl am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’n wych gallu cynnig digwyddiad arbennig am ddim i drigolion lleol yn Sir Ddinbych yn enwedig adeg y Nadolig, pan all fod yn gyfnod anodd i lawer o deuluoedd. Rydym felly yn annog y rhai sydd eisiau dod i ffonio ein swyddfa docynnau i fachu eu tocynnau cyn gynted â phosibl i sicrhau eu seddi yn Theatr y Pafiliwn eleni. Gwnewch y penwythnos olaf ym mis Tachwedd yn ddechrau arbennig i’ch dathliadau Nadolig gyda’r teulu i gyd, gyda’r digwyddiad goleuadau Nadolig yn Y Rhyl ar ddydd Sadwrn Tachwedd 26ain a’n cyngerdd Pops Nadolig ar ddydd Sul Tachwedd 27ain, y ddau ddigwyddiad am ddim i’w mynychu, felly gwnewch y mwyaf ohono! ”
Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Diane King: “Mae’r Pops Nadolig yn argoeli i fod yn ddigwyddiad arall o ddisgleirdeb a llawenydd – a dyna beth sy’n digwydd! Nid yn unig mae gennym deyrnged wych Barry White yn William Hicks, ond mae gennym hefyd The Supreme Dreamgirls a Chôr Ysgol Emmanuel Y Rhyl, yr un mor dalentog. Rhyngddynt, mae’r Pops Nadolig yn argyhoeddi i fod yn noson i’w chofio, ac mae Cyngor Tref y Rhyl yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn unwaith eto.”
Bydd y drysau’n agor o 4pm, i roi’r cyfle i’r gynulleidfa cael diod o 1891 cyn i’r cyngerdd ddechrau am 5pm.
I archebu eich tocynnau Pops Nadolig 2022, ffoniwch Swyddfa Docynnau Theatr Pafiliwn y Rhyl ar 01745 330000.

Sêr Teledu a Panto i gynnau goleuadau Nadolig y Rhyl eleni
Cadarnhawyd gwledd o adloniant am ddim ar gyfer seremoni Goleuo Golau Nadolig y Rhyl, gan gynnwys GloBot 8 troedfedd ac arddangosfa tân gwyllt.
Bydd sêr y panto eleni Jake Canuso, sy’n fwyaf adnabyddus am chwarae ei ran fel gweinydd Sbaeneg ar y gyfres Benidorm ar ITV, a Richard Hawley, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Johnny Connor yn Coronation Street ar ITV, yn cynnau goleuadau Nadolig y dref ar y Stryd Fawr yn y Rhyl ar ddydd Sadwrn 26 Tachwedd rhwng 1pm a 4pm.
Yn diddanu torfeydd a theuluoedd bydd Glowbot 8 troedfedd, aelodau cast panto Nadolig Aladdin eleni a modelu balŵns cyn arddangosfa tân gwyllt byr i gloi’r prynhawn gyda chlec.
Hefyd ar y llwyfan yn diddanu’r dorf rhwng 1pm-4pm bydd cystadleuydd llwyddiannus Britain’s Got Talent, Gruffydd Wyn, y mezzo soprano aruchel Sioned Terry, yr hyfryd Serenity Royal, y talentog Matty Roberts a’r band poblogaidd Chasing Shadows yn chwarae set acwstig. Gydag amrywiaeth o berfformwyr ar ac oddi ar y llwyfan, mae rhywbeth at ddant pawb yn yr ŵyl Goleuadau Nadolig eleni.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym yn falch iawn o allu cynnal prynhawn o adloniant am ddim i’r Rhyl, yn enwedig gan ystyried y pwysau economaidd presennol, mae’n bwysicach nag erioed i ddod at ein gilydd fel cymuned a mwynhau digwyddiadau am ddim fel hyn. Byddwn hefyd yn cynnal ein cyngerdd pops Nadolig blynyddol ar ddydd Sul 27 Tachwedd, y ddau ddigwyddiad am ddim ac mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Rhyl.”
Dywedodd maer y Rhyl, y Cynghorydd Diane King: “Mae digwyddiad goleuadau Nadolig y Rhyl yn argoeli i fod yn wledd o adloniant a thalent. O strydoedd Corrie i’n stryd fawr, mae’r digwyddiad yn llawn panto, sêr teledu, a cherddorion lleol rhagorol. Mae cynnau goleuadau’r Nadolig yn un o uchafbwyntiau calendr y Rhyl ac mae’n addo ychydig o oriau cyfareddol. Mae’r cyngor tref yn falch o fod yn bartner gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf i lwyfannu’r digwyddiad a rhoi hwb i dymor yr ŵyl.”






Hamdden Sir Ddinbych yn goleuo ar gyfer Apêl y Pabi Coch
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn goleuo adeiladau i gefnogi Apêl Pabi blynyddol y Lleng Prydeinig Brenhinol.
Bydd Canolfan Grefft Rhuthun, Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891 a rhaeadr yr Arena Digwyddiadau i gyd yn cael eu goleuo yn goch i Apêl y Pabi Coch 2022.
Mae’r Lleng Prydeinig Brenhinol yn gweithio fel rhwydwaith cenedlaethol sy’n cefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog, gan sicrhau nad yw eu cyfraniad unigryw byth yn cael ei anghofio.
Y Lleng Prydeinig Brenhinol yw elusen Lluoedd Arfog fwyaf y wlad, gyda 180,000 o aelodau, 110,000 o wirfoddolwyr a rhwydwaith o bartneriaid ac elusennau, ac maent yn darparu cymorth lle bynnag a phryd bynnag y mae ei angen. Bob blwyddyn mae Apêl y Pabi yn helpu i godi arian hanfodol i’w helpu i barhau â’u gwaith hanfodol; o ddarparu cyngor arbenigol i gymorth ar sut i ymdopi ac adsefydlu a llawer mwy.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Mae’r Lleng Prydeinig Brenhinol yn darparu cefnogaeth gydol oes i bersonél sy’n gwasanaethu a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd, ac mae Apêl y Pabi yn eu galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i fywydau pobl. Mae cyfrannu at Apêl y Pabi eleni yn caniatáu i ni ddangos ein bod yn poeni am fywydau ein Cymuned Lluoedd Arfog a thalu teyrnged iddynt. Byddwn yn goleuo ein hadeiladau drwy gydol yr Apêl, i ddangos ein cefnogaeth i waith y Lleng Prydeinig Brenhinol, ac i annog eraill i wneud yr un peth. ”


Hamdden Sir Ddinbych i gynnal dau Ddigwyddiad i Gefnogwyr Cwpan y Byd
Bydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn cynnal dau ddigwyddiad parth cefnogwyr yn Neuadd y Dref Y Rhyl fis nesaf, wrth i Gymru ddechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd yn Qatar.
Wrth i rowndiau terfynol Cwpan y Byd agosáu ac wrth i gyffro gynyddu ar draws y genedl, ni fydd llawer o gefnogwyr Cymru yn gallu gwneud y daith 3000+ o filltiroedd i fwynhau Cwpan y Byd cyntaf eu tîm ers 1958. Felly i’r rhai sy’n bwriadu gwylio gartref y gaeaf hwn, Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn sicrhau nad yw cefnogwyr yn colli munud o’r cynnwrf gyda dau ddigwyddiad parth ffan yn cael eu cynnal yn Neuadd y Dref Y Rhyl.
Gyda sgrin deledu 15 troedfedd, adloniant gyda’r DJ Owain Llyr, Côr yn canu ‘Yma O Hyd’ cyn y gêm, bar ac amrywiaeth o fyrgyrs a pizzas bendigedig 1891 ar werth, gall y cefnogwyr fwynhau’r gemau mewn steil.
Bydd y digwyddiadau parth ffan yn cael eu cynnal ddydd Llun 21 Tachwedd – yn wynebu UDA a dydd Mawrth 29 Tachwedd – yn wynebu Lloegr. Bydd y ddwy gêm yn cychwyn am 7pm a bydd y drysau’n agor am 6pm. Pris mynediad fydd £2 wrth y drws.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf, Jamie Groves “Rydym i gyd wedi arfer gwylio Cwpan y Byd yn ystod misoedd cynnes yr haf, felly bydd digwyddiad y mis nesaf yn Qatar yn rhywbeth gwahanol i’r rhan fwyaf o gefnogwyr pêl-droed. Rydym yn gyffrous iawn i gynnal dau ddigwyddiad parth cefnogwyr yn Neuadd y Dref y Rhyl, gan ei fod yn lleoliad dan do perffaith i fwynhau pêl-droed penigamp. Mae gennym ni bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer yr achlysur perffaith, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at greu awyrgylch gwych i’n cwsmeriaid, a chynnal digwyddiad y bydd pawb yn ei fwynhau!”


Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cefnogi Ymwybyddiaeth Canser y Fron trwy oleuo’n binc
Bydd Hamdden Sir Ddinbych yn goleuo ei adeiladau ym mis Hydref i gefnogi apêl Cancr y Fron a Diwrnod Gwisgo Pinc.
Bydd Canolfan Grefft Rhuthun, Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau i gyd yn cael eu goleuo mewn pinc ar Hydref 21ain i gefnogi’r digwyddiad blynyddol hwn.
Mae diwrnod Gwisgo Pinc wedi cael ei gynnal ers dros 20 mlynedd ac mae wedi codi dros £37 miliwn ar gyfer ymchwil achub bywyd o ganser y fron. Bob blwyddyn mae tua 2,600 o bobl, gan gynnwys dynion a menywod, yn cael diagnosis o ganser y fron yng Nghymru – sef tua 7 person bob dydd.
Mae pob punt a godir gan ‘Breast Cancer Now’ yn mynd tuag at ymchwil hanfodol a all helpu i atal canser y fron, helpu i’w ganfod yn gynt neu helpu i sicrhau ei fod yn cael ei drin yn effeithiol drwy bob cam.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf, Jamie Groves “Diwrnod Gwisgo Pinc yw un o’r digwyddiadau codi arian blynyddol mwyaf yn y DU, ac o ganlyniad mae Breast Cancer Now yn gallu parhau i weithio nid yn unig tuag at ddarparu ymchwil a allai achub bywydau, ond hefyd yn gwneud gwelliannau i gymorth a gofal, a mynediad at wybodaeth i’r rhai sy’n cael diagnosis o ganser y fron, a’u teuluoedd. Mae’r afiechyd hwn wedi cyffwrdd â bywydau llawer ohonom, ac mae Hamdden Sir Ddinbych yn falch o oleuo ein hadeiladau yn binc i helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser y fron.”

Penwythnos Calan Gaeaf wedi’i drefnu gan Hamdden Sir Ddinbych
Mae Hamdden Sir Ddinbych yn rhoi’r ‘trît’ yn Tric neu Trît y Calan Gaeaf hwn gyda thri digwyddiad gwych i’r teulu i gyd.
Mae SC2 Rhyl yn brysur gyda gweithgareddau arswydus i rhai ifanc (a rhai hyn!) yn ein arena Chwarae Antur a Ninja TAG! Rhaid taro gymaint o TAGs â phosib i gadw’r lefelau ymbelydredd i lawr. Rhaid osgoi’r sombiaid yn arena Ninja TAG a rasio eich ffordd allan o’r parth sombi halogedig. Gyda gwisgoedd dychrynllyd, danteithion melys a swper i gyd wedi’w gynnwys, SC2 yw’r lle perffaith i’r plant losgi rhai o’r fferins Calan Gaeaf! Mae dydd Sadwrn 29, dydd Sul 30 a dydd Llun 31 i gyd i’r plant gyda’n nosweithiau dychrynllyd yn Ninja TAG, a gyda’r rhai bach yn ein ardal chwarae antur hefyd yn mwynhau, ond gyda llai o ofn!
Mae bwyty 1891 ym Mhafiliwn y Rhyl hefyd gyda noson o fwyd ac adloniant ar y gweill. Fedrwch fwynhau swper yn y bwyty ac yna i’r bar am noson arswydus o gemau, gyda DJ byw, a dawnsio trwy’r nos gyda llawr dawnsio myglyd arbennig, Limbo, cystadleuaeth gwisg ffansi a mwy! Pwy ddywedodd fod Calan Gaeaf ar gyfer plant yn unig? Mae dydd Sadwrn 29 Hydref yn ymwneud â’r ‘oedolion’ ym 1891.
Bydd dosbarth ffitrwydd arbennig Clubber-ffit arswydus yn cael ei gynnal yn Nova Prestatyn ar ddydd Gwener 28ain Hydref, dosbarth arswydus sy’n cyfuno Clubbercise a Bocsio, Llosgwch y fferins Calan Gaeaf yn ein dosbarth ffitrwydd, ac yna cewch fwynhau y gemau arswydus, DJ a mwy ym Mar Nova.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym yn cynnal rhai digwyddiadau Calan Gaeaf hwyliog i’r teulu cyfan mis yma, ar draws SC2, Pafiliwn y Rhyl a Nova Prestatyn. Fel yr arfer, mae ein hatyniadau wedi ymrwymo i ddarparu adloniant fforddiadwy i’r teulu oll, ac fe welwch fod rhywbeth at ddant pawb yr hydref hwn. Gwnewch eich Calan Gaeaf yn un i’w gofio gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf!”
Archebwch eich bwrdd yn 1891 cyn y parti Calan Gaeaf i gychwyn eich noson gyda phryd o fwyd bendigedig yn ein bwyty, www.1891rhyl.com/reservations Mae tocynnau dal ar gael ar gyfer Nosweithiau Dychrynllyd Sc2 – archebwch eich tocynnau ar-lein i osgoi cael eich siomi: SC2rhyl.co.uk ac archebwch eich lle yn nosbarth Clubber-ffit yng Nghlwb Nova trwy’r ap HSDD wythnos ynghynt i gael eich lle yn brydlon!
Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cymryd rhan yn y ‘Wave of Light’ ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn goleuo atyniadau mewn pinc a glas ym mis Hydref i gefnogi rhieni mewn profedigaeth a’u teuluoedd a’u ffrindiau.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn rhedeg o ddydd Sul 9 Hydref tan ddydd Sadwrn 15 Hydref ac mae’n gyfle arbennig sy’n nodi bywydau babanod a gollwyd yn ystod beichiogrwydd, adeg geni, neu’n fuan ar ôl genedigaeth.
Bellach yn ei 20fed flwyddyn, mae gan Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod 2022 thema gyffredinol o ‘Stepping Stones’ a fydd yn cyffwrdd â’r camau anodd ac unigryw y mae teuluoedd yn eu hwynebu ar ôl profi colled babi.
Bydd Canolfan Grefft Rhuthun, Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891 a’r rhaeadr i gyd yn cael eu goleuo mewn pinc a glas ar draws Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod mewn undod â’r gymuned beichiogrwydd a cholled babanod o ddydd Sul 9fed – dydd Sadwrn 15fed Hydref.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Rydym yn goleuo atyniadau yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf i gefnogi’r holl rieni a theuluoedd mewn profedigaeth sydd wedi profi’r fath torcalon. Rydyn ni eisiau i’r gymuned Babanod a Cholled Beichiogrwydd wybod, nad ydych chi ar eich pen eich hun ar eich taith ac fod cymorth a chefnogaeth ar gael os ydych chi’n cael trafferth. Mae thema eleni o ‘Stepping Stones’ yn deimladwy iawn ac rwy’n meddwl ei fod yn berthnasol i amrywiaeth enfawr o sefyllfaoedd bywyd anodd. Hoffem hefyd gydnabod y gwaith rhagorol a wneir gan weithwyr iechyd ledled y wlad i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth.”

Chwilio newyddion
Newyddion Diweddar
- Atyniadau Sir Ddinbych yn goleuo mewn Coch, Gwyn a Glas i goffáu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop 8th Mai 2025
- Profiad ffitrwydd, ‘y Cyntaf yng Nghymru’, BOX12 yn lansio yng Nghlwb y Rhyl 8th Mai 2025
- Strafagansa Wy Pasg DLL yn diddanu miloedd o gwsmeriaid ledled Sir Ddinbych dros wyliau’r Pasg 30th Ebrill 2025
- Sous Chef – 1891 y Rhyl 28th Ebrill 2025
- Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwesteion – DLL 28th Ebrill 2025